Peidiwch byth â rhoi pwysau ar rywun i ddatgelu. Ni waeth a ydych chi'n credu mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Y person arall sy'n bwysig ac sy'n cael penderfynu, nid chi.
Os ydych chi'n meddwl bod rhywun rydych chi'n ei adnabod yn profi camdriniaeth ddomestig, mae llawer o gefnogaeth ar gael i chi mewn rôl gefnogol. Mae cam-drin domestig yn aml yn cynnwys rheoli a gorfodaeth ynghyd â thrais neu ofn trais, ynysu neu ddylanwadu'n niweidiol wrth wraidd y gamdriniaeth. Gallwch chi sylwi nad yw rhywbeth yn iawn, ond nid yw bob amser yn hawdd i rywun ddatgelu ei amgylchiadau personol.
Gall ymatebion pobl i drais domestig amrywio; gallant fod yn ofnus, yn grac neu efallai na fydd unrhyw arwydd allanol o gwbl. Gallant ymddwyn mewn ffyrdd sy'n ymddangos yn anarferol i chi, gan hyd yn oed chwerthin ar adegau amhriodol neu'n bychanu'r hyn sydd wedi digwydd iddynt.
Gall pobl ddatgelu mewn llawer o ffyrdd: gall fod yn rhywbeth sy'n cael ei ddweud fel jôc, stori mae rhywun yn dechrau ei hadrodd ac yn stopio gan ddweud nad yw'n bwysig, neu gall fod yn gwestiwn. Nid oes disgwyl i chi fod yn gwnselwr proffesiynol. Fodd bynnag, gall y ffordd mae rhywun yn ymateb i ddatgeliad cyntaf fod yn bwysig. Gall deimlo'n anodd gwybod sut i ymddwyn ac ymateb i ffrind sy'n datgelu - gallwch chi gael eich dychryn, teimlo sioc neu'n grac am yr hyn sy'n digwydd i'ch ffrind. Hefyd, gall gymryd amser i rywun benderfynu beth mae am ei wneud a'r camau nesaf.
Dyma arwyddion posib bod rhywun yn profi trais domestig (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):
- Mae'n ymddangos bod y person yn ofni partner neu aelod o'r teulu neu’n awyddus i'w plesio.
- Cytuno â phopeth mae'r partner neu'r aelod o'r teulu yn ei ddweud
- Rhoi gwybod i'r partner neu i'r aelod o'r teulu am ei leoliad, beth mae'n ei wneud a chyda phwy
- Siarad am dymer neu genfigen y partner neu aelod o'r teulu
- Cael llawer o anafiadau neu 'ddamweiniau'
- Colli diwrnodau gwaith, ysgol neu achlysuron cymdeithasol yn aml heb reswm clir
- Gwisgo dillad anaddas ar gyfer y tymor, megis llewys hir yn yr haf i guddio cleisiau neu farciau
- Newid personoliaeth, er enghraifft, hunan-barch isel mewn person a oedd yn arfer bod yn hyderus neu iselder neu orbryder newydd
- Ymbellhau, yn sydyn neu'n araf, o berthnasoedd agos â ffrindiau a theulu neu hoff hobïau
- Gofyn am gymeradwyaeth y partner neu'r aelod o'r teulu am weithgareddau, cyfeillgarwch, prynu pethau neu gynlluniau
Beth gallwch ei wneud?
Os yw rhywun yn datgelu ei fod yn byw gyda chamdriniaeth ddomestig, mae nifer o bethau bydd angen i chi eu hystyried, gan ddibynnu ar eich rôl mewn perthynas â'r dioddefwr/goroeswr. Ceisiwch beidio â gofyn am ormod o fanylion a phwysleisiwch eich bod yno i wrando.
Dyma ychydig o awgrymiadau wrth siarad â dioddefwyr/goroeswyr:
- Siaradwch â'r person mewn man preifat i gadw cyfrinachedd.
- Gwrandewch a chydnabod yr hyn mae'r dioddefwr/goroeswr yn ei ddweud.
- Credwch a dilyswch - mae'n bwysig bod y dioddefwr/goroeswr yn teimlo eich bod yn credu'r hyn mae'n ei ddweud a'ch bod yn ei gwneud hi'n glir nad yw ar fai am y gamdriniaeth.
- Esboniwch fod cymorth ar gael. Cyfeiriwch y person at gymorth yn y Brifysgol a'r tu allan iddi.
- Peidiwch ag addo gwneud rhywbeth nad ydych chi'n gallu ei wneud a byddwch yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau.
- Datgelu: Gall myfyrwyr ddatgelu digwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth Prifysgol Abertawe. Gallwch chi ddatgelu ar ran rhywun, gyda chydsyniad y person. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gallwch ddarparu eich manylion chi.
Helpu i sicrhau diogelwch y dioddefwr
Meddyliwch
- Ydy’r person mewn perygl uniongyrchol? Os yw mewn perygl uniongyrchol neu os yw wedi'i anafu'n ddifrifol, gallwch chi ffonio 999 (neu 112 o ffôn symudol).
- Ewch i le diogel. Os yw'r ymosodiad newydd ddigwydd, ceisiwch ddod o hyd i rywle mae'n teimlo'n ddiogel.
- Os yw'r person gartref neu yng nghartref rhywun arall - ydy'r ymosodwr wedi mynd? Os yw wedi cysylltu â chi, allwch chi ei helpu i sicrhau ei ddiogelwch drwy ffonio'r heddlu neu allwch chi ymyrryd mewn rhyw ffordd arall? Ffoniwch 999. Os yw ar y campws, gallwch chi hefyd gysylltu â Gwasanaethau Diogelwch y Campws - drwy ffonio 333 o unrhyw ffôn mewnol, ffonio 01792513333 ar ffôn symudol neu ddefnyddio ein ap SafeZone.
Parchwch annibyniaeth eich ffrind
- Er eich bod chi'n meddwl efallai fod cam gweithredu penodol yn amlwg, mae'n bwysig bod eich ffrind yn penderfynu dros ei hun, yn dod o hyd i'w atebion ei hun, yn gosod ei ffiniau ei hun ac yn adennill rheolaeth.
- Os bydd angen i chi rannu gwybodaeth er diogelwch eich ffrind, gofynnwch am ganiatâd drwy roi gwybod i'ch ffrind pa wybodaeth byddwch yn ei rhannu ac â phwy. Os ydych chi'n poeni bod eich ffrind neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol, gallwch chi esbonio y bydd rhaid i chi ddweud wrth rywun yn y sefyllfa hon. Os ydych chi'n ansicr beth i'w wneud, gallwch chi siarad ag aelod o dîm Llesiant@BywydCampws.
- Bydd eich ffrind yn ceisio gwneud penderfyniadau anodd ac yn brwydro â theimladau o ddiffyg pŵer - os ydych chi'n gwneud penderfyniadau dros eich ffrind gall hynny gynyddu'r ymdeimlad o ddiffyg pŵer.
- Gallwch chi ddweud wrth eich ffrind bod asiantaethau arbenigol sy'n gallu cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol, hyd yn oed os nad yw am roi gwybod i'r heddlu. Gan ddibynnu ar bryd digwyddodd y trais (os digwyddodd yn ystod y saith niwrnod diwethaf), gellir casglu tystiolaeth fforensig a'i storio os yw eich ffrind yn penderfynu mynd at yr heddlu nes ymlaen.
- Peidiwch â mynd i'r afael â'r sefyllfa eich hun, fel wynebu'r ymosodwr, ei fygwth neu ymosod arno/arni. Nid yw hyn yn helpu, mae'n anniogel, a gall fod yn droseddol.
- Byddwch yn amyneddgar a pheidiwch â rhoi pwysau ar eich ffrind. Gall fod yn demtasiwn meddwl neu ddweud pethau fel 'digwyddodd flynyddoedd yn ôl, anghofia amdano'. Ond mae camdriniaeth, trawma a'u heffeithiau'n barhaus. Hyd yn oed ar ôl i rywun ddod i delerau â rhywbeth ac adfer o'r trawma uniongyrchol, gall ymateb i sbardun flynyddoedd wedyn.
- Ceisiwch gael gwybod beth mae ei angen ar eich ffrind, os rhywbeth, gennych chi. Peidiwch â rhagdybio beth mae ei eisiau neu ei angen ar eich ffrind. Rhowch wybod iddi/iddo eich bod yno i'w helpu.
Cael cymorth i chi'ch hun
- Gall gwrando ar ddatgeliad gael effaith arnoch chi, felly mae'n bwysig bod gennych chi le i brosesu eich emosiynau eich hun.
- Gall Llesiant@BywydCampws ddarparu lle a chymorth i unrhyw fyfyriwr sydd wedi gwrando ar ddatgeliad, gan barchu preifatrwydd pawb sy'n ymwneud â'r sefyllfa. Mae'r gwasanaeth yn gyfrinachol oni bai bod risg uniongyrchol o niwed difrifol.
- Gallwch chi hefyd gysylltu ag asiantaethau arbenigol allanol i gael cymorth i chi'ch hun fel ymatebwr.
- Gall cefnogi goroeswr fod yn anodd, and mae'n berffaith iawn cymryd amser a lle i chi'ch hun weithiau. Mae'n bwysig peidio â bradychu ymddiriedaeth goroeswr drwy ddweud wrth eraill am brofiadau'r person heb ganiatâd, ond gallwch chi siarad yn gyfrinachol â'r gwasanaethau a nodir uchod a chael cymorth arbenigol ganddynt.
Rhagor o wybodaeth am gefnogi ffrind sy'n profi, neu sydd wedi profi, perthynas gamdriniol.
- Os yw'ch ffrind yn fenyw, mae gan Refuge adnoddau am 'gefnogi goroeswr'.
- Os yw'ch ffrind yn ddyn, mae gan y llinell gymorth i ddynion, Respect, adnoddau i ffrindiau a theulu.
- Os yw'ch ffrind yn LHDCT+ mae gan Galop adnoddau i ffrindiau a theulu.
- Sylwer, gall llawer o'r wybodaeth yn yr adnoddau ychwanegol hyn fod yn ddefnyddiol, ni waeth beth yw rhyw neu hunaniaeth eich ffrind.