Gall fod o gymorth deall yr hyn sy'n cael ei ystyried yn gamdriniaeth ddomestig cyn i chi benderfynu beth i'w wneud. P'un a yw myfyriwr arall yn gyfrifol am yr ymddygiad hwn neu beidio, gall Prifysgol Abertawe eich cefnogi drwy'r datgeliad hwn a'ch helpu i ddeall yr opsiynau sydd gennych o ran y cam nesaf.
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi bod yn darged camdriniaeth ddomestig a/neu reolaeth drwy orfodaeth, gall fod yn anodd gwybod beth i'w wneud neu sut i deimlo. Nid chi sydd ar fai am yr hyn sydd wedi digwydd. Chi sy’n dewis beth i’w wneud nesaf.
Mae llawer o ddioddefwyr/oroeswyr yn rhoi'r bai arnyn nhw eu hunain ac mae'n bwysig deall na wnaethoch chi ddim i achosi'r ymddygiad hwn tuag atoch a'r person a wnaeth hyn sy'n gyfrifol am ei weithredoedd.
- Ydych chi erioed yn ofni eich partner (neu aelodau eraill o'r teulu)?
- Ydych chi wedi newid eich ffordd o fyw neu'ch ymddygiad am fod ofn arnoch chi sut bydd eich partner (neu aelod arall o'r teulu) yn ymateb?
- Ydy eich partner (neu aelod arall o'r teulu) erioed yn eich brifo neu yn eich bygwth chi neu eich anwyliaid (gan gynnwys anifeiliaid anwes)?
- Ydy eich partner yn rhoi pwysau arnoch chi neu'n eich gorfodi i wneud pethau nad ydych chi am eu gwneud?
Os ydych chi wedi ateb yn gadarnhaol i unrhyw un o'r cwestiynau hyn, mae'n bosib eich bod yn dioddef camdriniaeth ddomestig.
Mae camdriniaeth ddomestig yn niweidio eich iechyd meddwl a chorfforol ac yn rhoi eich diogelwch mewn perygl difrifol. Mae camdriniaeth yn tueddu i waethygu dros amser. Mae help ar gael i ddianc y sefyllfa. Os ydych chi wedi penderfynu gadael, ceisiwch gael cyngor gan sefydliad cymorth yn gyntaf. Os ydych chi'n ystyried gadael, byddwch yn ofalus wrth bwy rydych chi'n dweud. Mae'n bwysig nad yw'ch partner yn gwybod i ble rydych chi'n mynd.
Meddyliwch
- Gwnewch eich hunan yn ddiogel
Os ydych chi gartref neu yng nghartref rhywun arall, ydy'r person sy'n achosi niwed wedi mynd? Os nad yw, allwch chi wneud eich hun yn ddiogel, cysylltu â ffrind neu aelod o'r teulu neu ffonio'r heddlu? Os ydych chi mewn perygl neu wedi'ch anafu'n ddifrifol, ffoniwch 999 ar unwaith (neu 112 o ffôn symudol). Os ydych chi'n drwm eich clyw, lawrlwythwch yr ap 999 BSL.
- Ewch i le diogel.
Os yw'r ymosodiad newydd ddigwydd, ceisiwch ddod o hyd i rywle rydych chi'n teimlo'n ddiogel. Ydych chi'n gallu siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo? Os ydych chi ar y campws neu mewn llety ar y campws, y staff llety neu dîm diogelwch y campws. Os yw hyn yn ystod oriau gwaith, gallwch chi hefyd ddod i'r gwasanaethau myfyrwyr. Os nad yw'n ddiogel i chi siarad, cofiwch y gallwch:
- Ffonio 999
- Gwrando ar y gweithredwr
- Pesychu neu dapio'r set law
- Os gofynnir i chi, pwyswch 55 - mae hyn yn roi gwybod i'r gweithredwr bod hon yn alwad go iawn a chewch eich cysylltu â'r heddlu.
- Os yw plant yn rhan o'r sefyllfa, sut gallwch chi eu helpu nhw? Gall camdriniaeth ddomestig gael effaith ddychrynllyd ar blant a phobl ifanc - ceir rhagor o wybodaeth yma: diogelu.
Ydych chi wedi'ch anafu?
Os oes gennych symptomau corfforol ar ôl ymosodiad, dylech chi geisio cymorth meddygol. Os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny, gall tynnu lluniau o'ch anafiadau fod yn ddefnyddiol fel tystiolaeth o'r gamdriniaeth.
Os yw hyn yn fwy na mân anaf, neu os oeddech chi'n anymwybodol hyd yn oed am gyfnod byr, dylech chi fynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Os oes modd, gall fod o gymorth dod â ffrind neu aelod o'r teulu.
Chi sy'n penderfynu faint o wybodaeth rydych chi'n ei darparu, ond bydd staff yr ysbyty yn gallu cynnig cyngor gwell i chi os ydyn nhw’n ymwybodol o'r amgylchiadau.
Cymorth
- Siaradwch â ffrind: Gall trafod pethau â rhywun rydych yn ymddiried ynddo helpu weithiau.
- Siaradwch â gweithiwr proffesiynol: Gall trafod eich profiad â gweithiwr proffesiynol gynyddu eich dealltwriaeth o'r sefyllfa a'ch grymuso i wybod pa opsiynau a chymorth sydd ar gael i chi.
Dysgwch ragor am opsiynau cymorth eraill sy'n berthnasol i Gamdriniaeth Ddomestig. (LINK)
Chi sy'n dewis beth i'w wneud nesaf. Dyma rai o'r opsiynau sydd ar gael:
Rydym yn credu ei bod hi'n bwysig i ddioddefwyr/oroeswyr allu rheoli sut maent yn penderfynu datgelu a chael cymorth. Ein rôl ni yw eich cefnogi drwy roi i chi wybodaeth, opsiynau a rhywun i wrando heb feirniadu. Chi sy'n penderfynu beth i'w wneud nesaf. *Fodd bynnag, os ydyn ni'n credu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol, efallai y bydd angen i ni rannu gwybodaeth.
- Adrodd a Chymorth: Gall myfyrwyr ddatgelu digwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth Prifysgol Abertawe. Gallwch chi ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gallwch ddarparu eich manylion a bydd cynghorydd yn eich helpu i ddeall eich opsiynau yn y brifysgol a'r tu allan iddi, p'un a ydych chi'n dewis rhoi gwybod am y digwyddiad neu beidio. Gall staff roi gwybod ar ran myfyrwyr sy'n datgelu iddynt, gyda'u cydsyniad. SYLWER: Nid yw defnyddio’r system Adrodd a Chymorth yn cychwyn y broses cwynion ffurfiol yn y brifysgol yn awtomatig. Fodd bynnag, gallwch chi ofyn am hyn a'i drafod â'ch cynghorydd.
- Rhoi Gwybod i'r Heddlu: Mae ymddygiad camdriniol a brofir gan bartner neu gyn-bartner yn drosedd. Mae hyn yn cynnwys camdriniaeth seicolegol megis ymddygiad gorfodaethol neu reolaethol yn ogystal â thrais.
Mae'r heddlu'n cydnabod bod porn dialedd (revenge porn) yn fath difrifol o gamdriniaeth. Os yw rhywun yn rhannu neu'n bygwth rhannu llun personol heb gysyniad gallwch chi roi gwybod am hyn. Gallwch hefyd roi gwybod am ddigwyddiad yn ddienw drwy ffonio Crimestoppers ar unrhyw adeg ar 0800 555 111
- Dewis peidio â rhoi gwybod: Chi sy'n penderfynu a ydych chi am roi gwybod i rywun. Mae llawer o resymau pam gallwch chi ddewis peidio â rhoi gwybod. Beth bynnag yw'ch rheswm dros beidio â rhoi gwybod, caiff hyn ei barchu. Os ydych chi'n dewis yr opsiwn hwn, gallwch gael cymorth gan y Brifysgol a'r tu allan iddi o hyd. Mae'r cymorth am ddim ac ni fydd pwysau arnoch chi i roi gwybod am y gamdriniaeth ddomestig.