Beth yw gwyliwr?
Unigolion yw gwylwyr sy'n gweld digwyddiadau neu sefyllfaoedd sy'n effeithio ar bobl eraill a thrwy fod yn bresennol, efallai fod ganddynt gyfle i roi cymorth, gwneud dim byd neu gyfrannu at ymddygiad sy'n mynd rhagddo.
Beth yw gwyliwr gweithredol?
Mae gwyliwr gweithredol yn berson sy'n gweld sefyllfa ond sydd hefyd yn cymryd camau i siarad o blaid rhywun neu'n achub ar y cyfle i atal sefyllfa rhag gwaethygu neu'n ymyrryd â sefyllfa anodd pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny.
Proses gwneud penderfyniad gwyliwr gweithredol
Cyn i chi weithredu, mae angen i chi gymryd 4 cam ar gyfer ymyrryd:
- Sylwi ar y digwyddiad
- Dehongli'r digwyddiad fel problem
- Teimlo'n gyfrifol am ymdrin â hyn
- Meddu ar y sgiliau angenrheidiol i weithredu
Pa strategaeth ymyrryd y gallaf ei defnyddio?
Ymyriadau UNIONGYRCHOL
- Ymdrin â'r sefyllfa'n uniongyrchol
- Y dioddefwr – gofynnwch i'r person a ydy ef/hi'n iawn a sut y gallwch chi helpu
- Yr ymosodwr – dywedwch wrth y person nad yw'n iawn dweud/gwneud beth mae'n ei wneud (cyhyd â bod hynny’n ddiogel)
- Gwnewch hwn fel grŵp os gallwch chi. Byddwch yn gwrtais. Peidiwch â gwaethygu'r sefyllfa – cadwch eich pen a dywedwch pam mae rhywbeth wedi eich tramgwyddo chi. Dywedwch yn union beth sydd wedi digwydd, peidiwch â gor-ddweud.
Ymyriadau TYNNU SYLW
Ceisiwch dynnu sylw y naill barti neu'r llall – unrhyw beth sy'n tynnu sylw rhywun ddigon i roi diwedd ar yr ymddygiad dilornus. · Torrwch ar draws, gan ddechrau sgwrs â'r ymosodwr er mwyn i’w darged posib symud i ffwrdd neu ofyn i'ch ffrindiau ymyrryd. · Neu meddyliwch am syniad i dynnu'r dioddefwr allan o'r sefyllfa – dywedwch wrtho/wrthi fod yn rhaid iddo/iddi dderbyn galwad ffôn neu fod angen i chi siarad ag ef/hi; unrhyw esgus i symud y dioddefwr i rywle diogel. Fel arall, rhowch gynnig ar dynnu sylw neu ailgyfeirio'r sefyllfa e.e. drwy arllwys diod neu drwy ofyn am gyfeiriadau
DIRPRWYO Ymyriadau
- Gofynnwch am gymorth gan bobl eraill - Os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus neu'n ddiogel i ymyrryd, dylech chi ddirprwyo'r ymyriad i rywun arall
- Dywedwch wrth aelod o staff e.e. staff diogelwch, staff y bar, aelod o'r Brifysgol
- Gofynnwch i ffrind y dioddefwr neu'r ymosodwr i gamu i mewn
Ymyriadau OEDI
Holwch a yw’r dioddefwr yn iawn ar ôl y digwyddiad
- Os yw'r sefyllfa'n rhy beryglus i chi herio yn y fan a'r lle (megis os oes bygythiad o drais neu os oes gormod o ymosodwyr), dylech chi gerdded i ffwrdd.
- Arhoswch i'r sefyllfa ddod i ben ac yna gofyn i'r dioddefwr a ydy ef/hi'n iawn.
- Adroddwch amdani pan fyddwch chi'n teimlo'n ddiogel i wneud hynny.
MEDDYLIWCH
Mae hi bob amser yn bwysig i chi ystyried eich diogelwch eich hun. Mae'n bwysig cofio, yn y bôn, mai'r ymosodwr ei hun yw'r unig berson sy'n gyfrifol am y digwyddiad.