Mae mathau gwahanol o gamdriniaeth, ond mae bob amser yn ymwneud â chael pŵer a rheolaeth dros rywun arall.  Mae'n bwysig bod pawb yn gallu adnabod arwyddion cam-drin domestig.

Gall cam-drin domestig gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

Isod ceir rhestr o arwyddion gwahanol o gam-drin domestig. Os ydych yn ateb yn gadarnhaol i unrhyw un o'r cwestiynau canlynol, efallai fod gennych bartner neu aelod o'r teulu camdriniol. 

Cam-drin Emosiynol 

A yw'r person hwn yn: 

Eich bychanu?

Gwneud galwadau afresymol i gael eich sylw?

Eich cyhuddo chi o fflyrtio neu gael carwriaeth? 

Rhoi'r bai arnoch chi am y gamdriniaeth neu'r dadleuon?

Eich ynysu oddi wrth eich ffrindiau a'ch teulu?

Eich atal rhag mynd i'r brifysgol neu i'r gwaith?

Gwadu bod y gamdriniaeth yn digwydd neu'n ei dibrisio?

Dweud wrthych beth i'w wisgo, pwy i'w weld, ble i fynd a beth i'w feddwl?

Cam-drin Seicolegol:

Gall y person sy'n eich cam-drin eich niweidio mewn nifer o ffyrdd. A yw’n gwneud y canlynol:

Dinistrio pethau sy'n eiddo i chi? 

Sefyll drosoch chi neu yn eich gofod personol?

Darllen eich e-byst, eich negeseuon testun neu’ch llythyron?

Bygwth eich brifo neu eich lladd chi, eich hun neu'r plant?

Gweiddi neu'n rhegi tuag atoch? 

Eich anwybyddu neu'n eich ynysu?

Galw enwau arnoch?

Eich eithrio o ddigwyddiadau neu weithgareddau ystyrlon?

Cam-drin Corfforol

A yw'r person hwn yn:

Eich slapio neu eich bwrw chi?

Eich tagu chi neu eich dal i lawr?

Eich gwthio chi?

Eich llosgi chi?

Eich brathu chi neu'ch cicio chi? 

Taflu pethau tuag atoch?

Cam-drin Ariannol

A yw'r person hwn yn:

Rheoli sut mae arian yn cael ei wario?

Mynnu eich bod yn rhan o weithgarwch twyllodrus?

Rhoi "lwfans" i chi?

Eich gwahardd rhag gweithio? 

Atal mynediad uniongyrchol i gyfrifon banc, benthyciadau neu grantiau?

Gwario arian arno ei hun ond ddim yn gadael i chi wneud yr un peth?

   Rhoi anrhegion neu dalu am bethau a disgwyl rhywbeth yn ôl?

Cronni dyledion enfawr ar gyfrifon ar y cyd heb eich caniatâd neu weithredu mewn ffordd sy'n arwain atoch yn cael sgoriau credyd gwael?

Cam-drin Rhywiol

Gall cam-drin rhywiol ddigwydd i unrhyw un, boed yn ddyn neu'n fenyw. A yw'r person hwn yn:

Eich cyffwrdd mewn ffordd nad ydych am gael eich cyffwrdd?

Rhoi pwysau arnoch i gael rhyw anniogel - er enghraifft, peidio â defnyddio condom?

Rhoi dolur i chi yn ystod cyfathrach rywiol?

Rhoi pwysau arnoch i gael rhyw (gan gynnwys gyda phobl eraill)?

Gwneud galwadau rhywiol dieisiau?

Cofiwch: Does byth esgus dros gam-drin mewn perthynas. Nid yw dicter, cenfigen, alcohol neu eisiau amddiffyn y person arall - yn esgusodion. Gall trais neu gamdriniaeth ddomestig ddigwydd i unrhyw un gan unrhyw un. Dysgwch i adnabod yr arwyddion a ble i gael cymorth.

Os ydych yn poeni eich bod chi neu ffrind yn wynebu cam-drin domestig, efallai bydd yr wybodaeth gan IDAS ar red flags and warning signs o gymorth.

Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd